01/08/2026
Bws AM DDIM o Sgwâr Finch, Aberteifi i’r Eisteddfod ac yn ôl.
Sut gallwch chi gyrraedd yr Eisteddfod yn Llantwd? ⬇️
🔹 Bws yr Arglwydd Rhys yw bws AM DDIM sy’n gadael o Sgwâr Finch, Aberteifi, bob awr ar yr awr o 7:00yb, gyda’r bws olaf yn gadael Aberteifi am 11:00yh. Bydd y bws yn gadael maes yr Eisteddfod bob hanner awr, gyda’r bws olaf yn gadael am 11:30yh.
Gwasanaethau ⬇️
🔹 Mae gwasanaeth T5 yn gweithredu teithiau ychwanegol rhwng Aberteifi ac Abergwaun, a bydd yn mynd i mewn i faes yr Eisteddfod.
🔹 Mae gwasanaeth 430 yn gweithredu teithiau ychwanegol i Arberth, gyda’r daith olaf yn cyrraedd Arberth am 00:20.
🔷 Tocynnau dydd – £6 y person y dydd
Tocyn teulu – £10 (2 oedolyn a 3 o blant) y dydd.
Bydd y tocynnau hyn ar gael ar wasanaethau T5, 430 a 460 yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Os oes gennych Gerdyn Teithio Cymru, caiff hwn ei dderbyn ar y bysiau gwasanaeth.
I gael copi o’r amserlenni, anfonwch e-bost at [email protected] neu ewch i Traveline Cymru.